Newyddion Diweddaraf - Adolygiad
1af or DTRh wediu lansio ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus
Beth
yw'r Gweithgor?
......................................................................................................
Mae'r Gweithgor yn weithgor technegol ag aelodau sy'n cynnwys
swyddogion o'r 18 awdurdod cynllunio mwynau*, cynrychiolwyr o'r
Gymdeithas Cynnyrch Chwareli, Cymdeithas Agregau Prydain, Asiantaeth
yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Llywodraeth Cymru,
Cymunedau a Llywodraeth Leol, Cuddy Demolition a Arolwg Geolegol
Prydain.
Cadeirydd
y Gweithgor yw Martin Hooker, sy'n Gyfarwyddwr Cynorthwyol Cynllunio
gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cynorthwyir
ef gan yr Ysgrifennydd Technegol, Steve Bool, sy'n Brif Swyddog
Cynllunio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac
sy'n gweithio dan gontract i Lywodraeth Cymru ar faterion sy'n
ymwneud â'r Gweithgor. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont
ar Ogwr wedi bod yn awdurdod arweiniol ar gyfer De Cymru ym maes
cynllunio mwynau rhanbarthol ers 1996.
*
Blaenau Gwent, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Pen-y-bont
ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Merthyr,
Sir Fynyw, Castell Nedd Port Talbot, Casnewydd, Cyngor Sir Benfro,
Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf,
Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg.