Adolygiad
1af or DTRh wediu lansio ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus
......................................................................................................
Mae angen cynhyrchu Datganiad Technegol Rhanbarthol pob 5 mlynedd
ar gyfer Gweithgorau Agregau Gogledd a De Cymru. Mae'r DTRh yn
darparu argymhellion sydd yn arwain y lefelau o ddarpariaeth ar
gyfer agregau adeiladu i'r dyfodol sy'n ofynnol o bob Awdurdod
Cynllunio Mwynau yng Nghymru.
Cyhoeddwyd y datganiadau gwreiddiol yn 2008 ac mae drafft ymgynghorol
o'r dogfennau adolygiad cyntaf ar gael i'w harchwilio nawr.
Ceir rhagor o gefndir a manylion y broses Adolygu mewn llythyr
gan Lywodraeth Cymru, y gellir ei lawr lwytho yma:
First
Review of the Regional Technical Statements for Aggregates
Mae pob DTRh yn cynnwys y brif ddogfen ynghyd ag Atodiad Rhanbarthol
cyfatebol, sy'n darparu manylion ychwanegol. Mae'r rhain wedi
eu cynhyrchu, ar ran pob GRGCA, gan Cuesta Consulting Limited,
dan gontract i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae pob GRGCA wedi'u
hymglymu'n glos yn y gwaith paratoi, drwy ddarparu a gwirio manwl
y wybodaeth dechnegol ac mae'r dogfennau yn awr yn barod ar gyfer
craffu ehangach.
Gall y drafftiau ymgynghori yn cael eu lawr lwytho fel dogfennau
pdf yma:
RTS
First Review - Consultation Draft - Main Document
DTRh
Crynodeb Gweithredol ac Cytieithiad Rhan 1&2
RTS
First Review - Consultation Draft - Appendix B (South Wales)
Mae'r cyfnod ymgynghori yn rhedeg am wyth wythnos o'r 28ain
Hydref 2013 i'r 23ain Rhagfyr yn gynnwysiedig.
O fewn y cyfnod hwnnw bydd dau ddigwyddiad ymgynghori, un ym
Mhen-y-bont yn Ne Cymru ar 20 Tachwedd ac un yng Nghyffordd Llandudno
yn y Gogledd ar 21 Tachwedd. Mae hyd at 40 lle ar gael ym mhob
digwyddiad. Gellir mynychu'r digwyddiadau am ddim ac mae croeso
i bawb, er bod dyddiad cau ar gyfer ceisiadau (10 Tachwedd) a
bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i Aelodau Etholedig o'r wahanol
Awdurdodau Cynllunio Mwynau.
Mae rhagor o fanylion am bob digwyddiad, gan gynnwys manylion
am sut i archebu lle yn cael eu rhoi yn y dogfennau pdf canlynol:
South
Wales Consultation Event
North
Wales Consultation Event
Mae eich mewnbwn i'r broses hon yn cael ei annog yn gryf, pe
baech yn weithredwr mwynau, swyddog cynllunio, yn rhanddeiliad
fwy cyffredinol, yn aelod etholedig neu aelod o'r cyhoedd sydd
â diddordeb.
Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, pe baech yn llwyddo
i ddod i un o'r digwyddiadau ymgynghori, gallwch wneud hynny trwy
lawr lwytho a llenwi'r ffurflen arolwg:
RTS
First Review Consultation Survey
Fel yr eglurwyd yn y cyfarwyddiadau ar dudalen 1 o'r ffurflen,
gallwch gwblhau'n gyfan gwbl, neu unrhyw ran o'r ffurflen, gan
ddibynnu ar eich meysydd penodol o ddiddordeb neu bryder. Pan
fyddwch wedi gorffen, dychwelwch eich ymateb drwy e-bost at yr
ymgynghorydd: alan.thompson@cuesta-consulting.com
dim hwyrach na 23 Rhagfyr 2013.