Beth yw ei waith?
......................................................................................................

A3. Rôl Gweithgorau Agregau Rhanbarthol yn y Dyfodol

Cyd-Drefniadau Gwirfoddol Awdurdodau Lleol
  • Bydd ysgrifenyddiaeth dechnegol y gweithgorau rhanbarthol yn gweinyddu'r trefniadau ar gyfer sefydlu cyd-drefniadau gwirfoddol awdurdodau lleol i asesu'r Datganiad Technegol Rhanbarthol drafft er mwyn rhoi cyd-destun ar gyfer ystyriaeth briodol o faterion defnydd tir sy'n ymwneud â darparu agregau yng nghynlluniau datblygu unedol. Dylai pob awdurdod lleol y rhanbarth ystyried dod i gytundeb ynghylch yr argymhellion ar gyfer y rhanbarth yn y Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Agregau. Bydd gofyn i bob awdurdod lleol dan sylw gymeradwyo hwn wedyn.

  • Dylai pob awdurdod lleol yn y rhanbarth gynnwys elfennau o'u cynllun datblygu unedol neu gynllun datblygu lleol sy'n berthnasol i'w hardaloedd yn y Datganiad Technegol Rhanbarthol cyn gynted â phosibl.

  • Os nad yw'r awdurdodau lleol yn dod i gytundeb neu os nad yw awdurdodau lleol unigol yn dymuno derbyn y Datganiad Technegol Rhanbarthol, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru'n ystyried ei phwerau i ymyrryd yn y broses gynllunio fel cam olaf.
 
Site Map   Help   Top^ 
......................................................................................................

Copyright © 2005 SWRAWP South Wales Regional Aggregates Working Party
Design by Ubermedia