Beth yw ei waith?
......................................................................................................

A3. Rôl Gweithgorau Agregau Rhanbarthol yn y Dyfodol

Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Agregau

Darparu datganiad technegol rhanbarthol 5 mlynedd (o fewn 18 mis o gwblhau'r astudiaeth o allu amgylcheddol yng Nghymru) er mwyn sefydlu:
  • Canlyniadau'r asesiad rhanbarthol o allu amgylcheddol ardal pob ACM i gyfrannu at gyflenwad digonol o agregau cynradd;
  • Llunio strategaeth ar gyfer darparu agregau yn y rhanbarth yn unol â'r asesiad rhanbarthol hwnnw, gyda dyraniadau o ddarpariaeth ym mhob awdurdod cynllunio mwynau i fod yn sail strategol ar gyfer cynlluniau datblygu yn y dyfodol;
  • Asesu mewnforion ac allforion agregau nawr ac yn y dyfodol;
  • Asesu cyfraniad agregau morol nawr ac yn y dyfodol;
  • Cynghori'r Cynulliad ar botensial pob rhanbarth yng Nghymru i gynyddu'r defnydd o ddefnyddiau eraill i gymryd lle agregau cynradd.
 
Site Map    Help   Top^ 
......................................................................................................

Copyright © 2005 SWRAWP South Wales Regional Aggregates Working Party
Design by Ubermedia