Beth
yw ei waith?
......................................................................................................
A2. Arolygon Monitro Agregau
Mae gweithgorau
agregau rhanbarthol yn gwneud arolygon monitro er mwyn darparu
manylion o gynhyrchiad a defnydd rhanbarthol a chenedlaethol o
agregau. Gwneir y prif arolygon ar gylch pedair blynedd ar gyfer
Cymru a Lloegr ac maent yn darparu gwybodaeth am ddosbarthiad
rhanbarthol agregau. Cyflawnwyd yr arolwg diwethaf yn 2001 a chyhoeddwyd
y data cenedlaethol gan Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog . Cesglir
y wybodaeth oddi wrth gynhyrchwyr mwynau gan yr awdurdodau cynllunio
mwynau mewn arolwg a gydosodir yn rhanbarthol gan y gweithgorau
agregau rhanbarthol. Ers y 1990au cynnar, mae'r gweithgorau hyn
wedi gwneud arolygon blynyddol o gynhyrchiant agregau ac mae adroddiadau
sy'n crynhoi cynhyrchiant agregau a chronfeydd pob awdurdod cynllunio
mwynau'n cael eu cyhoeddi bob blwyddyn.
* Cydosodiad o Ganlyniadau Arolwg Mwynau Agregau
2001 ar gyfer Cymru a Lloegr SDBW (Arolwg Geolegol Prydeinig)
2003